Y Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn dangos i addysgwyr sut i ddefnyddio Microsoft 365 Copilot Chat i symleiddio cynllunio gwersi, creu adnoddau dysgu deniadol, a chefnogi prosesau asesu ac adborth.

Byddwch yn dysgu technegau ymarferol ar gyfer defnyddio promptiau i alluogi Copilot i gynhyrchu cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi manwl, addasu cynnwys ar gyfer anghenion gwahanol ddysgwyr, a chrynhau deunydd academaidd. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys sut i gynhyrchu taflenni gwaith gwahaniaethol, cwisiau a thasgau rhyngweithiol, yn ogystal â sut i awtomeiddio marcio a darparu adborth ar unwaith gan ddefnyddio offer integredig fel Microsoft Forms.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych becyn o offer ar gyfer defnyddio AI i arbed amser, personoli dysgu, a gwella adborth yn eich arfer addysgu.

Ar ôl cwblhau’r asesiad myfyriol, byddwch yn derbyn eich tystysgrif Microsoft Elevate ar gyfer eich portffolio proffesiynol.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu


Creu cynlluniau gwaith cyflawn a chynlluniau gwersi addasadwy.

Cynhyrchu adnoddau gwahaniaethol, cwisiau a gweithgareddau dysgu rhyngweithiol.

Awtomeiddio asesu a darparu adborth ar unwaith gan ddefnyddio offer Microsoft 365.

Rheoli ac adolygu aseiniadau’n effeithiol o fewn Microsoft Teams.

Sicrhau allbynnau cywir sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm gan ddefnyddio arferion AI gorau.

Example Curriculum

  Cyflwyniad - Introduction
Available in days
days after you enroll
  Creu cynlluniau gwaith a chynlluniau gwers unigol - Creating schemes of work and individual lesson plans
Available in days
days after you enroll
  Creu Adnoddau Gwahaniaethol - Differentiated Resource Creation
Available in days
days after you enroll
  Defnyddio AI o fewn Aseiniadau Teams - Using AI Within Teams Assignments
Available in days
days after you enroll
  Camau Nesaf - Next Steps
Available in days
days after you enroll