Y Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio Sgwrs Microsoft 365 Copilot i gefnogi eich astudio — yn foesegol, hyderus ac yn effeithiol.

Byddwch yn dysgu hanfodion defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol mewn cyd-destunau academaidd, gan gynnwys sut i gyfeirio at gynnwys a gynhyrchir gan AI a sut i adnabod materion megis tuedd, preifatrwydd data, ac uniondeb academaidd.

Drwy arddangosiadau cyflym a gweithgareddau byr, byddwch yn archwilio sut i ddefnyddio Copilot ar gyfer ymchwil, o gynhyrchu syniadau a mireinio awgrymiadau i grynhoi ffynonellau a gwirio cywirdeb gwybodaeth a gynhyrchir gan AI.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio Copilot i grynhoi darlithoedd, creu nodiadau adolygu clir, ac addasu cynnwys i weddu i’ch arddull ddysgu.

Yn olaf, byddwch yn gweld sut y gall Copilot helpu gyda pharatoi ar gyfer arholiadau drwy gynhyrchu cwestiynau ymarfer, cardiau fflach, amserlenni astudio, a strategaethau ar gyfer deall pynciau cymhleth.

Cwblhewch y myfyrdod terfynol a byddwch yn ennill tystysgrif Microsoft Elevate Credentials i ddangos eich cyflawniad.

Beth y byddwch yn ei ddysgu

Ystyriaethau moesegol defnyddio AI o fewn eich astudiaethau.

Defnyddio Copilot ar gyfer ymchwil.

Defnyddio Copilot i grynhoi darlithoedd.

Defnyddio Copilot i gefnogi paratoi ar gyfer arholiadau.

Cwricwlwm


  Ystyriaethau Moesegol o Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Eich Astudiaethau - Ethical Considerations of Using AI within Your Studies
Available in days
days after you enroll
  Defnyddio Copilot ar gyfer Ymchwil - Using Copilot for Research
Available in days
days after you enroll
  Defnyddio Copilot i Gronhoi Darlithoedd - Using Copilot to Summarise Lectures
Available in days
days after you enroll
  Defnyddio Copilot i Gefnogi Paratoi am Arholiadau - Using Copilot To Support Exam Prep
Available in days
days after you enroll
  Certification (Tystysgrif)
Available in days
days after you enroll